Bodlon
Trosolwg
Mae BODLON yn gwmni newydd sy’n cynnig rhoddion unigryw o fwyd a diod safonol wedi’u pecynnu’n fodern, yn lliwgar ac yn gyffrous i gwmnïau ac unigolion.
Mae hamperi BODLON yn cael eu creu mewn hen ysgoldy Fictoraidd yn Llanarthne ger Caerfyrddin.
Gwybodaeth Gyswllt
Llanarthne Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin, Cymru SA32 8JDffôn: cliciwch yma i weld y rhif ffôn01558 668877
Gwefan: http://www.bodlon.com

Disgrifiad
Os oes yna berson yn eich bywyd chi sy’n caru bwyd, fe gewch hyd i roddion hyfryd a hamperi Cymreig unigryw i’w cyfareddu yn Bodlon. Gallwch gael hyd i hamper am ben-blwydd priodas, hamper Nadolig, hamper pen-blwydd a hamper llongyfarchiadau neu hamper corfforaethol.
Gallwch archebu hamperi Cymreig, byrddau caws Cymreig neu weld cynnyrch y deli ar wefan Bodlon. Gallwch gael hyd i roddion unigryw gan gynnwys llestri enamel printiedig hufen, llestri tsieni printiedig, gorchuddion tebot a cafetiere, ffedogau a llieiniau sychu a dewiswyd gan bobl sy’n caru bwyd.
Mae ein diddordeb a’n teimladau cryf am fwyd a steil yn cael eu cyfuno i greu anrhegion o hamperi Cymreig sy’n llawn steil. Yn y rhain, rydym yn arddangos bwydydd a diodydd o Gymru sydd wedi eu gwobrwyo, i gyd wedi eu cynhyrchu yn y cornelyn bach ffrwythlon hwn o Ewrop.
Bydd un o’n basgedi hamper unigryw, neu ein byrddau caws Cymreig yn gwneud anrheg berffaith ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gallwch gael eich synnu gan gyfuniadau newydd, hyderus a blaengar o fwydydd a phetheuach yn llawn steil sy’n addurno ein basgedi hyfryd, ein hambyrddau pren neu ein cynwysyddion enamel. Rydym yn hoff o gwblhau’r rhain gyda thipyn o rwysg er mwyn sicrhau fod gan eich anrheg o hamper bwyd Cymreig ei steil gwahanol ac unigryw ei hun.
Mae hamperi Bodlon wedi eu hanfon i lysgenadaethau ledled Ewrop ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac at gogyddion ac ysgrifenwyr am fwyd fel Delia Smith a Tom Parker Bowles, yn ogystal â phobl sy’n gwerthfawrogi bwyd ledled y byd.
Os hoffech chi gael hamper wedi ei chynllunio yn arbennig ar eich cyfer chi, yna cysylltwch â ni. Rydym hefyd yn ddarparwyr unigryw o gynhyrchion cerameg Keith Brymer Jones sydd ag arysgrifau Cymraeg.
BODLON …… bwriad y cwmni yw plesio a gwneud yn siwr bod y cwsmer yn fwy na bodlon !




