Welsh English

Iwan Gwyn Parry a Sarah Carvell

Trosolwg

Pan fydd: 16/02/2013 - 09/03/2013

Amser: 10:00 am - 06:00 pm

Lleoliad: Oriel Martin Tinney

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

18 St Andrew's Crescent, Caerdydd Caerdydd, Caerdydd, Cymru CF10 3DD

Gwefan: http://www.artwales.com

E-bost: danfonwch e-bost

Enw Cyswllt: Mair

Ffôn: 02920 641411

Disgrifiad

Ganwyd Sarah Carvell yn Sir Caerlŷr ym 1964, a magwyd yn Llannefydd, Clwyd. Addysgwyd yn Wrecsam a chyflawnodd radd gelf yng Ngholeg Celf Loughborough. Mae’n byw ac yn gweithio yn Sir Ddinbych. Mae hi’n peintio mwynder Sir Ddinbych, ac arfordir Pen Llŷn. Mae hi’n dangos nodweddion adnabyddus yn ogystal a llefydd di-nod, sy’n ffurfio tirwedd amrywiol gogledd Cymru. Mae ei defnydd o liwiau cynnes, atyniadol yn nodweddiadol a dywed Sarah fod gwaith Nicolas De Stael a Syr Kyffin Williams yn ysbrydoliaeth iddi, yn enwedig yn y modd y bydd hi’n taenu paent yn drwchus, gyda dull ‘impasto’. Ganwyd Iwan Gwyn Parry yng Nghaergybi ym 1970. Astudiodd Celf Gain yn Sefydliad Addysg Uwch, Caerdydd cyn cwblhau MA yn Ysgol Gelf Chelsea, Llundain ym 1993. Mae eisoes wedi dychwelyd i ogledd Cymru, ac mae’n byw ac yn gweithio ger Bethesda. Ers iddo fod yn ifanc, mae arfordir Gogledd Cymru wedi bod yn rhan bwysig o’i fywyd. Mae’n creu peintiadau dramatig o’r ardal; fodd bynnag mae’n esbonio nad darluniau topograffigol ydynt, ond awgrym o lefydd o fewn ei ardal leol. Mae'r holl waith ar werth, efo amrywiaeth pris o £495 i £2500. Mae Cynllun Casglu ar gael.