Y PLAS – fedrwch chi fyw yn 1910?
gan lleol.net
on 22/05/2013 - 06:41 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Cyfres deledu newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…
Mae cynhyrchwyr ‘Coal House’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasty crand Cymreig yn 1910.
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni. Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn, teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?! Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.
...
Ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 201...
gan lleol.net
on 22/05/2013 - 12:09 am
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gael NAWR!
Mae'r ap yn cynnwys amserlen lawn o'r cystadlaethau, canlyniadau'r wythnos, gweithgareddau'r maes ac mae hefyd modd i chi greu eich amserlen bersonol ar gyfer yr wythnos.
Cliciwch yma fynd yn syth i'r 'App Store' i'w lawr lwytho ar gyfer yr ipod,iphone neu ipad.
Fe fydd y fersiwn android ar gael ddechrau wythnos y 22ain o Fai.
Cefnogir yr ap gan S4C a datblygwyd gan gwmni Moilin Cyf.
Cyfle i wirfoddoli yn Tafwyl 2013
gan lleol.net
on 21/05/2013 - 10:31 pm
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Wyt ti eisiau gwirfoddoli yn Tafwyl eleni?
Rydym yn edrych i recriwtio unigolion cyfeillgar a brwdfrydig dros 18 oed i wirfoddoli yn Tafwyl eleni. Prif bwrpas rôl y gwirfoddolwyr yw bod yn bwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, felly bydd angen gwirfoddolwyr hapus a chyfeillgar -- dyma gyfle gwych i fod yn rhan o'r Ŵyl gyffrous hon!
Bydd nifer o shifftiau a swyddi stiwardio amrywiol ar gael felly llenwch y ffurflen ar-lein (http://www.tafwyl.org/cyfle-i-wirfodd...)
neu cysylltwch â Sara Jones am fwy o fanylion -- sarajones@mentercaerdydd.org / 029 2068 9888.
www.tafwyl.org
Y Cyfnod i barhau
gan lleol.net
on 21/05/2013 - 01:30 am
Categori: Celfyddydau, Newyddion, Papurau Bro
Mae papur newydd Y Cyfnod wedi cael ei brynu, gan sicrhau dyfodol i'r wythnosolyn dwyieithog.
Y perchennog a golygydd newydd yw Mari Williams, awdur sy'n rhedeg cwmni gwasanaeth cyfathrebu Mari Williams PR. Bu Mari Williams, sy'n 41 oed, yn gweithio fel newyddiadurwr ac awdur copi i gwmni Golwg yn Llanbedr Pont Steffan, yn golofnydd ac awdur nodwedd llawrydd i'r Western Mail, Golwg a chyhoeddiadau eraill a Rheolwr Cyfathrebu BBC Cymru Wales. Mae'n byw yn Llanuwchllyn gyda'i gwr Brendon, sy'n newyddiadurwr, a'u dau o blant.
"Rydw i wrth fy modd o gael cymryd yr awenau," meddai Mari. "Mae'r Cyfnod a'i gyd-bapur y Corwen Times yn ganolog i fywyd yr ardal, yn ffynhonnell n ...




