Swyddfa i'w gosod ym Mhenygroes ger Caernarfon - Telerau rhesymol iawn

Trosolwg

Cyhoeddwyd: 14/06/2012

gan Robat Jones

Swyddfa mewn lleoliad cyfleus ym Mhenygroes ar gael rwan

Mae Penygroes yn le delfrydol i redeg busnes / cynnal swyddfa. Mae'r pentref yn eistedd ar y brif ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon, felly mae'n ganolog iawn o ran teithio.

Mae yma fanc, llefydd bwyta, siopau yn gwerthu nwyddau o bob math, swyddfa bost, canolfan hamdden, tafarn a llawer iawn mwy.

Prif nodweddion

  • Lle braf i weithio a chyfarfod cwsmeriaid
  • Rhent misol rhesymol
  • Dim biliau dŵr, trydan na nwy ychwanegol i'w talu
  • Perffaith ar gyfer 1-2 o weithwyr

Holi ymhellach / Gwneus cais

Mae croeso i chi gysylltu efo ni am sgwrs. Ffoniwch y swyddfa ar 01286 882688, y ffôn symudol ar 07724 902532, neu eBostiwch post@anturnantlle.com

Mae ffurflenni cais ar gael yn ein swyddfa, uwchben y Llyfrgell ym Mhenygroes, neu gallwn eBostio un i chi.

Cefndir Antur Nantlle

Sefydlwyd Antur Nantlle yn 1991 fel cwmni cyfyngedig di-elw gan grŵp o bobl leol i weithio er lles ardal Dyffryn Nantlle a’r cylch.  Nod yr Antur yw ymgyrraedd at adfywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn yr ardal gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo menter ymhlith pobl leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi.

Rheolir yr Antur gan fwrdd o Gyfarwyddwyr sy’n gweithredu yn wirfoddol er budd yr ardal. Ers ei sefydlu mae’r Antur wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth sylweddol yn Nyffryn Nantlle drwy brynu ac addasu adeiladau segur yn yr ardal yn ogystal a datblygu nifer o brosiectau mentrus.

Erbyn heddiw ‘rydym yn medru cynnig 16 o unedau busnes, 15 o swyddfeydd, dwy siop, iard, ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol ac un fflat, sydd yn cynnig mannau gwaith i oddeutu 60 o bobl yn Nyffryn Nantlle.

Fel cwmni di-elw, gallwn gadw ein rhenti yn gystadleuol iawn.